Seicoleg
Manylion llwybrau
Mae'r llwybr hwn yn canolbwyntio ar agweddau gwyddorau cymdeithasol Seicoleg, sy'n ddisgyblaeth eang sy'n ymestyn o archwilio ymddygiad dynol mewn cyd-destunau cymdeithasol i ddadansoddiadau niwrolegol o strwythur a swyddogaeth yr ymennydd.
Mae'r tri sefydliad sy'n rhan o'r llwybr hwn yn bartneriaid delfrydol oherwydd cyfatebolrwydd yn ein cryfderau ymchwil. Mae prosesau cymdeithasol yn amlwg iawn yn ymchwil y tri sefydliad. Mae Caerdydd yn canolbwyntio ar agweddau ar seicoleg sy'n berthnasol i agweddau, cymhelliant, ac emosiwn, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, a chroestoriadau rhwng seicoleg ddatblygiadol ac iechyd. Mae gan Fangor ddiddordeb mewn deall ein canfyddiad o eraill a sut rydym yn rhyngweithio â nhw, sut gwneir cysylltiadau cymdeithasol a sut mae gwybyddiaeth gymdeithasol yn effeithio ar iechyd a llesiant, a'r proffil datblygiadol sy'n cael ei arddangos mewn anhwylderau gwybyddiaeth gymdeithasol. Mae Prifysgol Abertawe yn archwilio dylanwadau cymdeithasol a gwybyddol ar iechyd a gwybyddiaeth, maeth a diet a rôl cysgu o ran iechyd a llesiant. Mae digon o botensial ar gyfer rhyngweithio ac astudiaethau pellach ym mhob un o'r meysydd hyn (ac mewn agweddau ar seicoleg wybyddol), gan adeiladu ar y lefel sylweddol o weithgarwch ar y cyd o fewn sefydliad mawr ei fri Cymru ar gyfer Niwrowyddorau Gwybyddol (WICN). Mae myfyrwyr ar eu hennill yn fawr drwy ddatblygu eu gwerthfawrogiad o'r amrywiaeth eang o ddulliau ar draws y sefydliad.
Mae myfyrwyr ar y llwybr Seicoleg yn elwa ar gysylltiadau sylweddol â sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, wedi eu hategu gan y ffocws ar ymchwil rhyngddisgyblaethol. Bydd myfyrwyr ym mhob sefydliad yn cael y cyfle i ymgysylltu â chanolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol lluosog ym mhob sefydliad (fel Mannau Cynaliadwy yng Nghaerdydd, Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mangor, DECIPHer yng Nghaerdydd ac Abertawe), yn ogystal â rhyngweithio â phrosiectau a ategir gan amrywiaeth o brosiectau Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig a phrosiectau Ewropeaidd. At hynny, mae gan bob sefydliad enw da am gyd-oruchwyliaeth ryngddisgyblaethol lwyddiannus o fyfyrwyr PhD (gan gynnwys gyda Busnes, Deintyddiaeth, Peirianneg, Gwyddorau Cymdeithasol a Meddygaeth).
Mae myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr 1+3 yn dilyn rhaglen Meistr sy'n cynnwys hyfforddiant ddulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol eang a modiwlau pwnc-benodol, gan gynnwys astudiaeth traethawd hir. Ceir digonedd o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiadau pellach drwy gydol y rhaglen ddoethurol. Mae'r partneriaid yn cynnal cynhadledd ôl-raddedig ar y cyf yn flynyddol i arddangos rhagoriaeth ac arloesi yn yr amgylchedd hyfforddiant ac ymchwil ar y cyd.