£18.5 miliwn wedi’i ddyrannu i Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

Featured

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid.

Mae’r buddsoddiad mewn partneriaethau hyfforddiant doethurol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’w weledigaeth newydd sy’n adlewyrchu canfyddiadau’r Adolygiad o PhD yn y Gwyddorau Cymdeithasol a gynhaliwyd yn 2021. Bydd y rhain yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant er budd datblygiad proffesiynol i wella sgiliau ymgeiswyr doethurol yn ogystal â datblygu gweithlu medrus ac o’r radd flaenaf ar gyfer y DU.

Mae YGGCC yn dynodi carreg filltir i’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Gan adeiladu ar lwyddiant Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, rydym yn cael ein cryfhau gan aelodau newydd o brifysgolion eraill, grŵp pwerus o bartneriaid strategol, ac ymrwymiad cryf gan randdeiliaid. Bydd YGGCC yn meithrin ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol o bob cefndir. Bydd yn rhoi hyfforddiant rhagorol ac yn eu paratoi’n ymarferol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru a ledled y byd.

Dywedodd yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr YGGCC.

Menter gydweithredol yw YGGCC rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant yn aelod cyswllt ac yn cymryd rhan yn y gwaith ar y cyd i hyfforddi a datblygu ymchwilwyr.  

Bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gyd mewn ymchwil a hyfforddiant ym maes y gwyddorau cymdeithasol ôl-raddedig. Bydd YGGCC yn darparu hyd at 360 o ysgoloriaethau ar draws 5 carfan flynyddol o 2024 ymlaen. Bydd yn creu cymuned integredig o ymchwilwyr ar draws Cymru drwy Blatfform Hyfforddi cyffredin gyda chymorth ESRC, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a phrifysgolion partner.

Gan gydweithio’n agos â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd yn cynorthwyo myfyrwyr a goruchwylwyr y gwyddorau cymdeithasol ym meysydd datblygu gyrfaoedd, lles a chynhwysiant. Mae ESRC yn rhoi £18.5 miliwn i YGGCC, ac mae’n cael swm cyfatebol drwy gyfraniadau gan brifysgolion partner yn ogystal â buddsoddiad o £1.5 miliwn a mwy gan bartneriaid strategol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae hyn yn newyddion gwych ac yn gadarnhad amlwg o gryfder cyfunol y prifysgolion sy’n rhan o’r bartneriaeth. Gyda’n gilydd mae gennym brofiad helaeth o gynnal ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy’n cael effaith amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar ein cymunedau ac yn ehangach ar draws y DU a thu hwnt.

Mae’r bartneriaeth hon yn fuddsoddiad enfawr a hynod arwyddocaol mewn ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithasol. Bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu gwyddonwyr cymdeithasol sydd â’r adnoddau i gynnal ymchwil effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a chynnig atebion i heriau cymdeithasol cymhleth sy’n newid o hyd. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu i ddatblygu gyrfaoedd ôl-raddedigion, yn rhoi hwb i’w lles, yn ogystal ag arwain at fwy o gynhwysiant.

Hoffwn ddiolch i’r Athro Harrington a’i dîm ar draws y bartneriaeth a weithiodd mor galed ar y cais llwyddiannus hwn ac edrychaf ymlaen at gadw llygad ar gynnydd y bartneriaeth dros y blynyddoedd nesaf.

Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner:

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod yn rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Mae gan Brifysgol De Cymru brofiad helaeth a nodedig o gynnal ymchwil effeithiol yn y gwyddorau cymdeithasol/maes polisïau, fel y gwelwyd yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 pan ddaethom i’r brig yng Nghymru am effaith. Rydym yn ymfalchïo, nid yn unig yng nghryfder ein hymchwil, ond hefyd y cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i’n myfyrwyr, ac mae’r ffaith i ni gael ein henwi’r brifysgol orau yn y DU yn yr arolwg diweddar o brofiad ymchwil ôl-raddedig yn adlewyrchu hynny. Bydd bod yn rhan o YGGCC yn hwb ychwanegol i’r cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant sydd ar gael i fyfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ledled Cymru a thu hwnt.

Athro Martin Steggall, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesedd, Prifysgol De Cymru

Rydym am i hyfforddiant ôl-raddedig ddatblygu ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol sy’n gallu cystadlu ar draws y byd. Rydym hefyd am iddyn nhw allu gweithredu mewn cyd-destunau rhyngddisgyblaethol, cydweithredol, ac mewn ymateb i heriau ar draws ystod o sectorau, a meddu ar amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. 

Bydd yr hyfforddiant doethurol hwn sydd wedi’i ehangu ac ar ei newydd wedd yn gwella’r profiad i fyfyrwyr PhD ac yn rhoi hwb i alluoedd yn y DU.

Cadeirydd Gweithredol ESRC, Stian Westlake

Cafodd cais YGGCC ei ddisgrifio fel un ‘rhagorol’ a’i ganmol gan ESRC am ei weledigaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a’i gynlluniau ar gyfer interniaethau a datblygu gyrfaoedd.

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am ysgoloriaethau drwy Gystadleuaeth YGGCC ar gyfer 2024 – 2025 ar gael ar wefan YGGCC.

Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

Trwy'r Dydd, Dydd Gwener 26 Ebrill 2024

Mae YGGCC yn falch o gynnig 3 cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod.

Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan YGGCC (heblaw am y rheiny sydd o fewn tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod o fod yn fyfyriwr).  Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod Gwanwyn/Haf 2024 am gyfnod o 3 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth â rhan-amser).  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.

Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.

Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:

Disgrifiadau Interniaeth

Ymchwil ar waith gweithredu ac effeithiau cynnar rhaglen Mewngymorth i Ysgolion CAMHS
Hyd:  3 mis
Prosiect: Ffocws y prosiect yw edrych ar waith gweithredu ac effeithiau cynnar gwasanaeth Mewngymorth Gwasanaethau iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda swyddogion a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol gyda staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.  
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS). 

Synthesis tystiolaeth ac ymchwil i lywio meddwl polisi addysg
(2 lleoliad ar gael)

Hyd:  3 mis 
Prosiect: Canolbwynt y prosiect yw lywio datblygiad rhaglen y llywodraeth ac ymyriadau polisi penodol.
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS). 

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.

Interniaeth Amgueddfa Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Llun 3 Gorffennaf 2023

Mae’n bleser gan PHD Cymru gynnig cyfle interniaeth gydag Amgueddfa Cymru, i weithio ar brosiect i ddatblygu “Cynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”. Ar hyn o bryd nid oes polisi cynhwysfawr ar gyfer cadw neu ailsefydlu sgiliau crefft treftadaeth yn Amgueddfa Cymru. Mae risg o golli sgiliau yn fuan oherwydd ymddeoliad staff, ac angen datblygu darpariaeth arloesol i sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu trosglwyddo.

Mae hwn yn gyfle i ymchwilydd PhD yn y gwyddorau cymdeithasol sydd â phrofiad o gynnal adolygiadau llenyddiaeth, cyfweliadau a/neu weithdai a diddordeb proffesiynol neu bersonol yn y sector treftadaeth.

Yn y prosiect ymchwil hwn, bydd myfyriwr yn cael y cyfle i gymhwyso ei set sgiliau i:

  1. ddadansoddi mentrau blaenllaw yn y sector
  2. gweithio ar y cyd â staff a chrefftwyr Amgueddfa Cymru i ddatblygu a deall yn well y ddarpariaeth hyfforddi bresennol i ddatblygu polisi a “Chynllun Gweithredu Sgiliau Crefftau Treftadaeth”.

Yn fewnol, bydd y Cynllun Gweithredu hwn yn adeiladu ar bolisïau, arferion a chynlluniau olyniaeth sy’n bodoli eisoes i wella gwaith Amgueddfa Cymru, a chreu gwahaniaeth, ar draws amrywiaeth o grefftau treftadaeth Cymru. Yn allanol, bydd y gwaith hwn yn cael ei ledaenu drwy rwydweithiau fel y Gymdeithas Crefftau Treftadaeth ac yn llywio arferion treftadaeth yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan PHD Cymru ESRC (heblaw am y rheini y mae eu hysgoloriaeth wedi dechrau yn ystod y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis). Rhagwelir y bydd yr interniaeth yn cychwyn ddydd Llun 1 Hydfref 2023 am gyfnod o 3 mis yn amser llawn neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.

Ceir disgrifiad llawn o’r prosiect yn y ddogfen

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.

Adroddiad Katharine Young yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cwblhaodd Katharine Young interniaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, lluniodd adroddiad o’r enw ‘Addysg cyfrwng Cymraeg yn sgîl trochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru‘ (cliciwch ar y teitl glas i weld yr adroddiad) sydd bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth.

Crynodeb Katharine o’r adroddiad:

Mae addysg drochi hwyr yn ddarpariaeth sydd yn caniatáu i hwyrddyfodiaid gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfnodau hwyrach na’r Cyfnod Sylfaen. Mae darpariaeth o’r fath wedi bodoli yng Nghymru ers nifer o ddegawdau, ac mewn nifer o ffyrdd gwahanol (drwy ganolfannau dynodedig, unedau iaith, ac o fewn ysgolion). Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.

Nod yr adroddiad hwn oedd llunio darlun o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr sydd yn bodoli mewn rhai awdurdodau addysg lleol, a deall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn codi wrth i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio a’i rhoi ar waith.

Sut i ddilyn ymchwil Katharine:

Os hoffech chi ddarllen rhagor o waith Katharine gallwch chi weld ei Phroffil Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru drwy law’r ESRC gan glicio yma, a gallwch chi ddilyn Katharine ar Twitter gan ddefnyddio: @KatharineSYoung

PUM AWGRYM I WNEUD EICH CAIS AM INTERNIAETH DOETHURIAETH YN LLWYDDIANT

Croeso i’r cyntaf o dri phostiad blog sydd wedi’u rhannu’n anffurfiol yn: “yr holl bethau yr hoffwn i fod wedi eu gwybod cyn i mi wneud cais am fy interniaeth doethuriaeth”. Mae’r cofnodion byr hyn wedi’u bwriadu ar gyfer y rhai ohonoch nad ydych erioed wedi clywed am wneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth, i’r rhai a allai fod hyd yn oed wedi dechrau gwneud cais!

Strwythur y gyfres:

  1. Awgrymiadau i wneud eich cais am interniaeth yn llwyddiant!
  2. Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!
  3. Myfyrdodau i gloi: h.y. = “a fyddwn i’n argymell gwneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth?” 

Helô, Jodie ydw i, ymchwilydd doethuriaeth trydedd flwyddyn (aaah!) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i effaith a niwed/niweidiau iaith casineb wrth-LGBTI+ ar-lein.

Roedd fy interniaeth yn swydd tri mis a ariannwyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn Llywodraeth Cymru (Ionawr–Ebrill 2021), a rhoddwyd y teitl canlynol ar fy mhrosiect: ‘Defnyddio astudiaeth yr Understanding Society i edrych ar newidiadau cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19’.

Nawr, efallai eich bod wedi sylwi nad yw’n ymddangos bod y prosiect hwn yn gysylltiedig â phwnc fy noethuriaeth – a byddech yn llygad eich lle – nid oedd. Gall hyn fod yn fwy cyffredin nag yr ydych yn ei feddwl ac mae’n cyflwyno fy awgrym cyntaf i feddwl am sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant … 

  1. Meddyliwch beth yw eich cymhellion CHI ar gyfer gwneud cais

Bydd eich cymhellion yn bersonol – rwy’n deall hynny, ond pan fyddwch yn gwneud cais am interniaeth, bydd yn rhaid i chi ddarbwyllo pobl eraill bod y rhain yn rhesymau perthnasol i oedi eich doethuriaeth. Y bobl bwysicaf yn ôl pob tebyg fydd eich goruchwylwyr, gan fod angen iddynt ‘gymeradwyo’ eich absenoldeb pan fydd eich cais yn llwyddiannus!

Felly, byddwn yn argymell yn fawr i chi siarad drwy’r cyfle gyda hwy.

Pan glywais am fy mhrosiect am y tro cyntaf gan ddarlithydd, roeddwn wedi pontio’n ddiweddar i ail flwyddyn fy noethuriaeth. Ar y pryd, roeddwn yn ei chael hi’n her astudio ar wahân yng nghanol y pandemig ac roedd trafod y rhesymau pam yr oeddwn am oedi fy mhrosiect doethuriaeth yn fuddiol iawn i mi. Helpodd fy ngoruchwylwyr i mi fynegi fy nghymhellion (a oedd mor bwysig ar gyfer fy ffurflen gais), yn ogystal â chodi rhai pethau hollbwysig nad oeddwn hyd yn oed wedi meddwl amdanynt!

Er enghraifft, a ydych chi ar fin dechrau ysgrifennu eich darn dulliau, ar ôl misoedd o gasglu data – ai dyma’r amser y dylech fod yn meddwl am oedi eich doethuriaeth mewn gwirionedd? A yw’r interniaeth yn gysylltiedig â’ch pwnc? Beth ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ei ennill o oedi eich doethuriaeth?

Yr hyn rwy’n ceisio’i gyfleu yma yn y pen draw yw … pa werth ydych chi’n disgwyl i’r interniaeth ei ychwanegu?

I mi, nid oedd y gwerth yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phwnc fy noethuriaeth … ond mwy y byddwn yn cael profiad gwerthfawr mewn ymchwil gymdeithasol mewn sector arall; roeddwn yn awyddus i ddysgu sut y cynhaliwyd ymchwil mewn lleoliad diwydiant yn hytrach nag un academaidd. Roeddwn hefyd am ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu y tu allan i’r byd academaidd, gan ddysgu sgiliau iaith ac ysgrifennu adroddiadau priodol i bolisi. Yn olaf, o ystyried fy nghariad at ddata, roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau dadansoddol a meithrin sgiliau cyflwyno priodol ar gyfer lleoliad busnes.

Y pwynt yw – aseswch y manteision o oedi cryn dipyn o amser allan o’ch doethuriaeth. 

  • Rhowch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio 

Nid yw’n broses gyflym!

I roi syniad i chi, rwyf wedi nodi rhai pwyntiau allweddol o fy mhroses ymgeisio:

Hefyd – fel nodyn ategol – yn y rhan fwyaf o achosion, ni allwch wneud cais am interniaeth yn ystod tri mis cyntaf eich rhaglen na’r tri mis olaf. Os ydych yn awyddus i wneud interniaeth, gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am yr amser iawn i wneud cais ac wedi gwirio unrhyw ganllawiau y gallai fod yn rhaid i chi gadw atynt!

  1. Cynlluniwch, drafftiwch ac ailddrafftiwch eich ffurflen gais!

Dyma oedd fy nghamau yn ystod fy mhroses ymgeisio:

  1. Paratowch ar gyfer eich cyfweliad

Ar ôl y trafodaethau arferol am y lleoliad, eich sgiliau/profiad ac ati, mae adran i chi ofyn cwestiynau! Dyma’ch cyfle i ofyn cymaint o gwestiynau perthnasol ag y gallwch, fel y gallwch geisio darganfod ai’r lleoliad arfaethedig yw’r dewis iawn i chi.

Fy mhrif gwestiynau oedd a fyddwn yn gallu cysylltu â staff eraill y tu allan i’m ‘tîm’ yn Llywodraeth Cymru; beth oedd canlyniadau disgwyliedig fy mhrosiect; sut olwg fyddai ar fy niwrnod gwaith (efallai y bydd amser hyblyg yn dda os ydych yn aml yn defnyddio’r hyblygrwydd y mae’r ddoethuriaeth yn ei gynnig); ac yn bwysicaf oll gofynnais sut y byddai gweithio ar-lein yn gweithio. Gan nad oeddwn yn gallu mynd i mewn i adeilad Llywodraeth Cymru oherwydd y pandemig, trafodais gyda hwy sut y byddwn yn cael fy nghefnogi, ac a fyddent yn rhoi hyfforddiant/offer i mi. 

  • Ymchwiliwch i gynhaliwr yr interniaeth!

Nid yw ymchwil byth yn dod i ben! Defnyddiais wefan Llywodraeth Cymru a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gofynnais i fyfyrwyr eraill am eu profiadau interniaeth (y da a’r drwg), i gasglu gwybodaeth am yr hyn y gallai fy interniaeth ei olygu ac ethos y gweithle – roedd LinkedIn yn ddefnyddiol iawn i mi mewn gwirionedd! Bydd unrhyw beth y gallwch ei ddysgu cyn i chi ddechrau yn fuddiol!

Rwy’n gobeithio bod y postiad hwn wedi dechrau gwneud i chi feddwl p’un ai interniaeth doethuriaeth sy’n gweddu orau i chi a sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant!

Am y tro, cadwch lygad am y postiad nesaf, a fydd yn ymdrin â ‘Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!’

Jodie

Os hoffech gysylltu â mi i ofyn unrhyw beth am fy mhrofiad interniaeth neu hyd yn oed i sgwrsio am fywyd/ymchwil ddoethurol – gallwch ddod o hyd i’m manylion cyswllt isod.

E-bost – lukerjr@caerdydd.ac.uk

Twitter academaidd – @jodie_luker

Instagram academaidd – @phd_hate_harms

Myfyrdodau ar Interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Yn y blog hwn, mae Aimee Morseyn trafod ymgymryd ag interniaeth yn ystod eich PhD.

Dod o hyd i interniaeth

Mae nifer o interniaethau ar gael gyda sefydliadau amrywiol. Mae’r DTP yn gweithio’n benodol mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi datblygu cyfleoedd interniaeth ac mae UKRI yn rhedeg rhaglenni interniaeth mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y DU.

Hysbysebir interniaethau yng nghylchlythyr misol y DTP, felly cadwch lygad ar yr adran os ydych yn awyddus i wneud cais am un. Dyma sut y cefais wybod am fy interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, felly mae’n bendant yn werth ei ddarllen!; Gallwch hefyd siarad â’ch goruchwylwyr ynghylch interniaethau yn eich maes ymchwil. Soniodd fy goruchwylwyr am gydweithwyr mewn sefydliadau eraill sy’n rhedeg interniaethau, er eu bod bob amser yn fy annog i ddewis yr un iawn i mi, ar adeg a oedd yn gweithio i mi.

Sut roeddwn i’n gwybod bod yr interniaeth yn addas i mi

Yn bennaf oll, siaradais â’m goruchwylwyr. Buom yn trafod sut y byddwn yn gwneud i’r interniaeth weithio orau i mi. Dewisais gynnal prosiect mewn maes tebyg i’m pwnc ymchwil PhD; fodd bynnag, efallai y bydd yn bosibl dewis rhywbeth mewn maes gwahanol a allai barhau i ategu eich damcaniaethau a/neu fethodolegau PhD.

Roedd yn rhaid i mi sicrhau na fyddai’r interniaeth yn gwrthdaro â’m hymrwymiadau gwaith maes PhD, ac yn teimlo mai tri mis fyddai’r hyd gorau. Syrthiodd fy interniaeth o fewn cyfnod clo 2021; fodd bynnag, nid oedd hyn yn effeithio ar fy mhrofiad ac fe’m hamgylchynwyd (bron) gan dîm o gydweithwyr cefnogol a oedd bob amser wrth law i ateb cwestiynau a rhannu eu barn am fy ngwaith. Roedd cael prosiect byr, diddorol i ganolbwyntio arno drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi helpu fy ymagwedd gyffredinol at fy PhD; roedd cyflwyno adroddiad wedi’i gwblhau yn caniatáu i mi ddychwelyd at fy ngwaith PhD yn hyderus y gallwn oresgyn y rhwystrau a dechrau’r 18 mis diwethaf i gwblhau fy nhraethawd hir hefyd!

Llunio cais llwyddiannus

Rwyf bellach wedi cwblhau dau gais interniaeth, ac o ystyried digon o amser i gwblhau’r broses ymgeisio, roedd yn hanfodol. Efallai y bydd rhai, megis Cynllun Cyfnewid Globalink UKRI (nad oeddwn yn gallu ei gwblhau yn anffodus o ystyried cyfyngiadau teithio rhyngwladol), yn gofyn i chi gael mynediad at byrth cais drwy oruchwylydd neu gyfrif sefydliadol (Je-S yn yr achos hwn). Os felly, trefnwch gyfarfod gyda’ch goruchwyliwr i sicrhau y gallwch lanlwytho’r cais yn brydlon!

Byddwn yn argymell siarad â darpar oruchwylwyr o’r sefydliad sy’n cynnig yr interniaeth. Mae trafod syniadau prosiect gyda nhw yn eich galluogi i ddeall yr hyn y maent yn ei ddisgwyl gan eu cyd-aelodau, ac a fydd eich gwaith yn cyd-fynd yn dda â’u gwaith nhw. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi drafod eu proses ymgeisio a’r dogfennau y bydd gofyn i chi eu cyflwyno. Gall dod i adnabod goruchwyliwr posibl mewn galwad gychwynnol hefyd helpu yn ystod y broses gyfweld ac wrth i chi setlo i mewn i’ch gwaith gyda sefydliad newydd, gan na fyddwch yn wynebu sgrîn neu swyddfa sy’n llawn wynebau cwbl anghyfarwydd.

Fy mhrofiad yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am waith y Ganolfan a sut maen nhw’n cefnogi llunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Er ei bod yn rhyfedd peidio â gosod troed yn eu swyddfeydd, fe’m gwnaed i deimlo bod y tîm yn croesawu hynny ac roedd eu cefnogaeth yn gwneud y profiad rhithwir yn werth chweil. Roedd gweithio gyda’r Tîm Ymchwil yn caniatáu i mi ddatblygu fy nghredau presennol ac ystyried y ffordd orau o’u cymhwyso mewn cyd-destun tîm newydd.

Yn ystod fy nghyfnod yn y Ganolfan ymchwiliais i bolisi amaethyddol yng Nghymru ac archwilio sut y gall cydweithio helpu ffermwyr i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliadau dros y ffôn gyda ffermwyr a phartneriaid grŵp a ariannwyd gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yng ngogledd Cymru. Roedd cynnal yr ymchwil hon, a chynhyrchu nifer o allbynnau, yn rhoi hwb i’m hyder wrth gyflawni prosiectau tymor byr. Byddwn yn argymell archwilio’r gwahanol opsiynau lledaenu sydd ar gael ar gyfer eich gwaith – cyn fy interniaeth doeddwn i erioed wedi ystyried cynhyrchu podlediad, ond diolch i’r tîm a’m cyfranogwyr podlediad, mae gen i bennod podlediad i gyd-fynd â’m hallbynnau ysgrifenedig!

Bydd eich profiad interniaeth yn amrywio yn dibynnu ar y sefydliad rydych chi’n gweithio gydag ef. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl:

  • Datblygu eich cymwyseddau, yn enwedig mewn perthynas â gweithio mewn tîm.
  • Datblygu rhwydweithiau gyda llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr eraill.
  • Cael dealltwriaeth o sut y gellid defnyddio’ch ymchwil mewn sefyllfaoedd ‘byd go iawn’.
  • Gorffennwch eich prosiect gydag o leiaf un allbwn, megis adroddiad, a all gyfrannu at eich PhD neu gael ei ddefnyddio a’ch cyfeirio gan eich sefydliad sy’n lletya interniaeth yn eu gwaith.

Byddwn yn eich annog yn gryf i ystyried cwblhau interniaeth fel rhan o’ch PhD. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fy mhrofiad interniaeth fy hun, mae croeso i chi gysylltu â mi (aimeemorse@connect.glos.ac.uk /@06aims ar Twitter)

Mae Aimee hefyd wedi ysgrifennu adroddiad sy’n manylu ar fanylion ei chyfnod gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y gallwch ei ddarllen drwy glicio yma.

Rhoi Pŵer PhD yn eich Busnes

Ymunwch â ni am gyflwyniadau gan fusnesau sydd wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr doethurol gwyddorau cymdeithasol i gynyddu cynhyrchiant, gwireddu nodau strategol, ac adeiladu i gefnogi datblygiad talent a sgiliau yng Nghymru.  Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol, fel un o 14 o rwydweithiau ymchwil o fri ledled y DU. Mae cydweithio â phartneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ganolog i’n cenhadaeth.  Gall sefydliadau anacademaidd elwa o ddifrif ar brosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol a chwarae rhan yn y gwaith o feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.

Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed gan Dr Charlotte Beale, Pennaeth Economeg Dŵr Cymru, Dr Michael Evans, Swyddog Prosiectau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a’r Athro David Egan, Llywodraeth Cymru, ar sut mae eu sefydliadau wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol.  Byddwch yn clywed sut y gall cefnogi efrydiaeth gydweithredol neu gynnal lleoliad gwaith ychwanegu gwerth, tra’n rhoi cyfle i fyfyriwr PhD ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith mewn diwydiant.  Bydd yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, yn rhoi cyngor ar sut i sefydlu trefniant sydd o fudd uniongyrchol i’ch sefydliad.  Mae’r sesiwn yn cynnwys y cyfle i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ar gydweithio â phanel o oruchwylwyr, myfyrwyr doethurol a busnesau.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 20 Hydref 2021 am yr hyn sy’n addo i fod yn sesiwn addysgiadol.  I gofrestru ar gyfer y briff hwn, a gynhelir ar Zoom, dilynwch y ddolen hon Briff Brecwast – Rhoi Pŵer PhD yn eich Tocynnau Busnes, Dydd Mercher 20 Hyd 2021 am 08:30 | Eventbrite

Ceisiadau am Gynrychiolwyr Myfyrwyr Nawr ar Agor!

Mae’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i ymgymryd â rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr DTP ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cynrychiolydd ychwanegol ar gyfer Prifysgol Caerdydd (i weithio ochr yn ochr â Chynrychiolydd cyfredol Prifysgol Caerdydd, Rachel Phillips), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Swydd Gaerloyw.

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ddolen gyswllt ar gyfer sylwadau a syniadau myfyrwyr eraill y mae PHD Cymru yn eu hariannu ar draws ysgolion a llwybrau academaidd eu sefydliad, gan gyflwyno adborth i’r bartneriaeth am bob agwedd ar brofiad y myfyriwr.

Rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr:

  • Cynnwys myfyrwyr eraill drwy eu hannog i roi adborth a rhannu barn a syniadau
  • Bod yn bwynt canolog ar gyfer casglu a lledaenu gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr a ariennir gan ESRC (ar draws pob blwyddyn) yn y sefydliad
  • Helpu DTP i nodi’r anghenion ar gyfer darparu hyfforddiant uwch
  • Amlygu problemau ac awgrymu gwelliannau i ddarpariaeth DTP o gymorth a chyfleoedd ystod cyfnod hyfforddiant ac ymchwil y myfyriwr PhD.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o Gynrychiolwyr Myfyrwyr DTP Cymru, anfonwch eich enwebiad (amlinelliad byr o pam y byddech chi’n gwneud Cynrychiolydd da) i DTP Cymru ( enquiries@walesdtp.ac.uk ) erbyn 12 Chwefror ynghyd ag enwau dau fyfyriwr DTP arall sy’n cefnogi’ch enwebiad. Mae rhagor o fanylion am rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr ar gael ar wefan DTP yma https://walesdtp.ac.uk/networking/student-reps/.

Cyfleoedd Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 5 Awst 2022

Mae DTP Cymru yn falch o gynnig tri cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, i weithio ar brosiectau penodol ar ystod o bynciau gan gynnwys Addysg a Sero Net.

Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan DTP ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd ymhen tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod fel myfyriwr).  Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n cael eu cynnal o bell, gan ddechrau yn yr Hydref 2022, am gyfnod o 3-6 mis amser llawn neu gyfnod cyfatebol yn rhan-amser.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad at eu PhD cyfwerth â hyd yr interniaeth.

Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.

Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 12:00 ar y dyddiad cau

Interniaethau gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Mae gennym bedair interniaeth ar gael gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 29 Hydref 2021

Mae gennym dri chyfle interniaeth 3 mis ar gael gan ddechrau ym mis Ionawr 2022, yn agored i fyfyrwyr a ariennir gan DRC ESRC Cymru.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn estyniad 3 mis wedi’i ariannu’n llawn ar eu PhD. Dyma gyfle i weithio y tu allan i’ch prifysgol i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a gwella’ch cyflogadwyedd. Os oes diddordeb gennych, dylech drafod y cyfle hwn â’ch goruchwyliwr cyn cyflwyno cais.

Dyma dri interniaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:

  1. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gweithredu a gwerthuso
  2. Rôl tystiolaeth wrth lunio polisïau
  3. Defnyddio offer polisi yng Nghymru wrth weithredu newid

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfen wedi’u hatodi, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer goruchwyliwr pob interniaeth.

Sylwer bod yr interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan DTP ESRC Cymru heblaw am y rheini sydd yn nhri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod fel myfyriwr.

Cyflwynwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV i enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn hanner dydd y dyddiad cau.

Ymgynghoriad agored ar adolygiad yr ESRC o’r PhD

Mae’r ESRC wedi lansio ymgynghoriad agored i lywio ei adolygiad o’r PhD yn y Gwyddorau Cymdeithasol. Maent yn ceisio barn ar astudiaeth ddoethurol gyfredol oddi mewn a’r tu allan i’r gwyddorau cymdeithasol gan bob aelod o’r gymuned ymchwil, cymdeithasau dysgedig, y llywodraeth, busnes, sefydliadau’r trydydd sector ac eraill sydd â diddordeb yn y sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol ar fyfyrwyr PhD y gwyddorau cymdeithasol. Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn llywio strategaeth yr ESRC ar gyfer hyfforddiant doethurol ac ar gyfer ailgomisiynu ei Bartneriaethau Hyfforddi Doethurol yn 2022/23. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 16 Medi 2020.

Adolygiad o effaith COVID-19 ar fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y DU

covid-19

Mae SMaRteN, y rhwydwaith ymchwil iechyd meddwl myfyrwyr a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, ar y cyd â Vitae, yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar fywydau gwaith bob dydd myfyrwyr doethurol a staff ymchwil. Eu nod yw cynnig dealltwriaeth er mwyn galluogi’r sector i gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn well. Parhau I ddarllen

Cronfa Ddata Arbenigol am COVID-19: Ymunwch os gallwch helpu

covid-19

Mae angen mynediad cyflym ar y Senedd at ymchwilwyr sy’n gallu darparu arbenigedd ynghylch y Coronafeirws a’i effeithiau.

Er mwyn i’r Senedd allu gael gafael ar arbenigedd ymchwil perthnasol yn gyflymach, mae Uned Cyfnewid Gwybodaeth y Senedd (KEU) yn creu Cronfa Ddata Arbenigol ar gyfer COVID-19.

Os oes gennych unrhyw arbenigedd sy’n ymwneud â COVID-19 neu ei effeithiau, byddai’r KEU yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ymuno â’r gronfa ddata.

Outdoor Learning Research Goes Global

children reading outdoors

Mae ymchwil gan Ymchwilydd PHD Cymru, Emily Marchant (Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Abertawe), ar fanteision dysgu yn yr awyr agored wedi cael ei gyhoeddi gan gyfryngau ar draws y byd.   Canfu’r astudiaeth fod awr neu ddwy o ddysgu yn yr awyr agored bob wythnos yn ennyn diddordeb plant, yn gwella’u llesiant ac yn cynyddu boddhad athrawon yn y swydd.   Bu allfeydd newyddion gan gynnwys The Conversation, Metro, CBS Boston, the Mother Nature Network ac eraill yn rhannu canfyddiadau o’r astudiaeth.

Myfyriwr PHD Cymru yn ennill Thesis Tri Munud Prifysgol Abertawe

Llongyfarchiadau i Darren Scott, myfyriwr PHD Cymru (yr Economi Ddigidol a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe), enillydd Thesis Tri Munud (3MT) Prifysgol Abertawe yn yr Arddangosfa Ymchwil Ol-raddedig flynyddol.   Cafodd Darren dri munud yn unig i grynhoi ei ymchwil mewn ffordd ddiddorol, a soniodd am sut gellid mynd i’r afael â segurdod trwy ddefnyddio apiau ffitrwydd a dyfeisiau i’w gwisgo.   Bydd Darren yn mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau rhanbarthol y gystadleuaeth, yn y gobaith o gael ei goroni’n bencampwr cyffredinol y Deyrnas Unedig.

 

PHD Cymru yn Penodi Saith Cymrawd Ol-ddoethurol Newydd

ESRC Wales DTP Flag

Mae PHD Cymru am longyfarch y saith cymrawd a benodwyd yn ddiweddar fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Ol-ddoethurol yr ESRC 2019.  Bydd pob un o’r cymrodorion yn gysylltiedig â llwybr PHD: Daearyddiaeth Ddynol yn achos Diana Beljaars (ym Mhrifysgol Abertawe) a Jen Owen (ym Mhrifysgol Caerdydd); Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn achos Katarina Kusic (ym Mhrifysgol Aberystwyth); Cynllunio Amgylcheddol yn achos Carla De Laurentis (ym Mhrifysgol Caerdydd); Ieithyddiaeth yn achos Lauren O’Hagan (ym Mhrifysgol Caerdydd); Rheolaeth a Busnes yn achos Joey Soehardjojo (ym Mhrifysgol Caerdydd), a Seicoleg yn achos Hikaru Tsujimura (ym Mhrifysgol Caerdydd).

Arolwg Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil yr ESRC

Mae Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil (NCRM) newydd lansio arolwg ar-lein sy’n edrych ar anghenion hyfforddiant myfyrwyr doethuriaeth. Mae’r arolwg hwn yn rhan o ymgynghoriad ynghylch anghenion hyfforddi ehangach a fydd yn helpu i arwain dulliau hyfforddi a ariennir gan yr ESRC yn y DU yn y dyfodol. Mae barn myfyrwyr presennol yn bwysig iawn a gwahoddir myfyrwyr PhD y Gwyddorau Cymdeithasol p’un a ydynt wedi’u hariannu gan yr ESRC ai peidio i lenwi’r arolwg.

Llenwch yr arolwg ar wefan NCRM lle gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth. Cysylltwch â Dr Rebekah Luff: r.luff@soton.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.